Cwpan Iau ar Nos Iau yn Lon Yr Ysgol

By McCann Dave

Cwpan Iau Cymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru - 2il Rownd

Dyma adroddiad cyntaf yn y iaith Gymraeg ar wefan Cynghrair Pel-droed Kon-x Cymru, Ynys Mon gan Glwb Pel-droed Bae Cemaes. Mwy i ddilyn yn ystod y tymor.

Roedd Llangefni Town Reserves, o fod wedi cael gwared â’r Fali – un o’r ffefrynnau, yn rownd 1 Cwpan Ieuenctid Cymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru, yn wynebu gêm rownd 2 a oedd yr un mor anodd, wrth iddyn nhw deithio i Fae Cemaes – yr unig dîm a oedd heb eu curo yn y gynghrair, ac yn sgorio am ddim ar eu tomen eu hunain.

Dyna sut y bu hi mewn hanner cyntaf cyfartal, ond gydag arddulliau cyferbyniol, gyda’r ymwelwyr yn pasio’r bêl o gwmpas yn dda iawn wrth i’r tîm cartref fabwysiadu dull mwy uniongyrchol, yn chwarae’r gêm o beli hir ac yn creu llawer mwy o gyfleoedd gyda Steve Mason yn mynd drwodd ddwywaith ond ni allai anfon ei gic ar ei thaith. Er y pasio cywrain yng nghanol y parc ni allai Cefni greu unrhyw gyfleoedd ac yn enwedig gan eu bod yn ymddangos fel pe baen nhw’n dibynnu ar redwr unig yn y ffrynt. Cafodd y sefyllfa ddi-datrys ei datrys gan y Bae pan chwaraeodd Ryan Jones bêl hyfryd i lawr yr ochr chwith i Steve Mason ac yntau yn ei dro’n chwarae drwy’r gŵr ifanc, Huw Torr, i redeg ymlaen a tharanu cic isel i’r gornel waelod i wneud y sgôr yn 1-0 [22]. Roedd gweddill yr hanner yn eithaf distaw â’r ymwelwyr yn gyndyn o golli mwy o dir cyn y toriad, yn pacio canol y cae i’r fath raddau nes bod y ddau dîm yn canslo’i gilydd allan. [H/A 1-0]

Daeth Llangefni allan ar gyfer yr ail gyfnod yn gwybod fod angen iddyn nhw ddod yn ôl i mewn i’r gêm yn sydyn os oedden nhw i adfer unrhyw beth ohoni a nhw ddechreuodd orau o’r ddau dîm gan wthio Cemaes yn ôl i’w bocs 18 llath eu hunain ac o’i gwmpas am tua 10 munud, ond, gan ddefnyddio eu hystlyswyr yn effeithiol, fe anfonodd Cemaes Tam Morton i lawr yr asgell a rhoi’r bêl i’r dylanwadol Steve Mason ac yntau’n ei chroesi wedyn i Torr a oedd ar ei orau i daranu ei ail gôl i mewn wedi 65 munud. A dyna hi, roedd y gêm drosodd...Cemaes yn gyfforddus yn 2-0, yn chwarae’r bêl o gwmpas i ladd amser yn yr ugain munud diwethaf, ond doedd neb wedi dweud wrth yr ymwelwyr ac fe newidiwyd pethau o gwmpas gan dîm rheoli Llangefni, gan ymrwymo dau a oedd yn saethwyr i’r carn wrth iddyn nhw ddechrau gwthio tuag at yr amddiffynwyr cartref ac fe gawson nhw eu gwobr gyda gôl a oedd wedi ei chynllunio’n dda wrth i Dylan Jones dderbyn croesiad ardderchog i’w throelli adref ac adfer y sgôr i 2-1 gyda phymtheg munud i fynd. Rŵan roedd yr ymwelwyr yn barod i fentro, ond pan ddaeth y bêl i Arwel Williams tua 25 llath allan, doedd Cemaes ddim yn rhy bryderus ond fe anfonodd ergyd ddeifiol a ffliodd i mewn oddi ar y postyn ac yn sydyn mae’n 2-2 gyda 10 munud i fynd a chri’r cefnogwyr sy’n ymwelwyr yn atsain… “mae hi wedi tawelu’n arw draw yn y fan acw.” Yn sicr fyddai’r gêm yma ddim angen amser ychwanegol gan fod y ddau dîm yn ymdrechu i ennill, ac fe ddaeth yr enillydd gyda dim ond pum munud ar ôl. Ond, chafodd croesiad ardderchog i’r postyn cefn, yn weddus gan seren y gêm, Huw Torr, mo’i chlirio a dyna gapten Cemaes, Steve Mason, yn ei gwneud yn 3-2 i’w rhoi drwodd i’r rownd nesaf. Ac maen nhw’n dal heb eu curo.

Dyna gêm ardderchog, waeth ba dîm roeddech chi am iddyn nhw ennill, a chefnogaeth dda gan y ddwy garfan o gefnogwyr.

Where next?

DIOLCH O CEMAES THANKS FROM CEMAES
MORE MASON MAGIC HALTS HOLY ISLE HOPES

Latest photos

Lucas Oil Anglesey Football League newsletter

Keep up-to-date with our exclusive email newsletters.

Subscribe